| Mae Uned Ymholiadau'r Cyhoedd yn yr Adran Addysg a Sgiliau yma i'ch helpu i
wybod yr atebion i'ch cwestiynau am faterion yn ymwneud ag addysg a sgiliau.
Os oes gennych chi gwestiwn cyffredin, mae'n debyg y gallwn ei ateb ein
hunain. Os yw'n gwestiwn mwy cymhleth, yna ein nod yw eich rhoi mewn
cysylltiad ag arbenigwyr polisi a all roi'r ateb i chi.
Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0870 000 2288, e-bost
info@dfes.gsi.gov.uk, ffacs 01928 79 4248, ysgrifennu at PO Box 12, Runcorn, Cheshire, WA7 2GJ, neu drwy
ffôn testun 01928 79 4274.
Byddwn yn ceisio ateb eich cwestiwn mor gyflym â phosib. Er enghraifft, ein
targed yw ateb y ffôn o fewn 20 eiliad ar gyfer 80% o'r galwadau a
dderbyniwn.
Rydym bob amser yn falch o dderbyn ymateb i unrhyw ran o'n gwasanaeth a
byddwn yn ei ddefnyddio i wella'r ffyrdd rydym yn gweithio. Mae croeso i chi
anfon unrhyw sylwadau at info@dfes.gsi.gov.uk.
|